#

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-702

Teitl y ddeiseb: Gofynion presenoldeb o ran Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr

Testun y Ddeiseb: Rwy’n galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio meini prawf presennol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ynghylch Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr yng Nghymru.

 

Ar hyn o bryd, mae’r meini prawf presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad yn Ffurflen Cytundeb Dysgu yr LCA yn nodi bod yn rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion presenoldeb y coleg 100 y cant o ran y rhaglen y cytunwyd arni oni bai iddynt gael eu hatal rhag gwneud hynny gan salwch, neu reswm da arall y cytunwyd arno gan y coleg, yn ogystal â mynychu pob dosbarth ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, gan gyflwyno’r holl waith erbyn y dyddiadau cau a bennwyd.

 

Mae’r meini prawf hyn yn gweithredu fel rhwystr sy’n atal oedolion ifanc sy’n ofalwyr rhag dilyn addysg bellach ac yn cyfrannu at nifer uchel yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr sydd wedyn yn rhoi’r gorau i’w cyrsiau oherwydd gofynion eu rolau gofalu. Ceir tystiolaeth o hyn yng nghanfyddiadau’r gwaith ymchwil ‘Time to Be Heard’ sy’n dweud nad yw 21 y cant o’r 22,655 o oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a’u bod bedair gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg na’r rhai sydd heb ymrwymiadau gofalu.

 

O dan ganllawiau’r LCA ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfrifoldebau gofalu a all effeithio ar allu’r oedolyn ifanc sy’n ofalwr i gymryd rhan mewn addysg, sy’n enghraifft o wahaniaethu ac sy’n cyfyngu ar ei ddewisiadau o ran gwireddu ei botensial yn llawn, hyrwyddo ei yrfa a gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas.

 

Er mwyn gostwng nifer yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a chynyddu’r nifer sy’n dilyn addysg bellach a hynny gan gwblhau eu cyrsiau, credaf fod angen cydnabod rôl hanfodol oedolion ifanc sy’n ofalwyr drwy ystyried eu cyfrifoldebau gofalu drwy gyflwyno gofyniad presenoldeb is o 80 y cant.

 

Cynigiaf fod cwestiwn yn cael ei gynnwys ar ffurflen gofrestru’r LCA er mwyn nodi oedolion ifanc sy’n ofalwyr a chydnabod y gall fod angen cymorth arnynt i ddilyn addysg bellach a dal ati, annog oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gofrestru â Gwasanaeth Gofalwyr a/neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i fonitro nifer yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru.

Cefndir

Y LCA yw lwfans ariannol sydd ar gael i bobl ifanc 16, 17 a 18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru, i’w hannog a’u cefnogi i barhau mewn addysg ar ôl oedran gadael ysgol gorfodol. Fe’i cyflwynwyd gyntaf ar gyfer pobl ifanc 16 mlwydd oed yn 2004/05 a chafodd ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 17 mlwydd oed yn 2005/06 a phobl ifanc 18 mlwydd oed yn 2006/07.

Cafwyd 30,465 o geisiadau am LCA yn 2014/15. Cymeradwywyd 94 y cant o’r ceisiadau a gafwyd, gwrthodwyd 3 y cant ac roedd 2 y cant yn anghyflawn.

Caiff myfyrwyr cymwys lwfans wythnosol o £30 a delir bob pythefnos. Y sefydliadau unigol, lle y mae myfyrwyr yn cael eu LCA, sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cwmni benthyciadau myfyrwyr (SLC) i fwrw ymlaen â thalu LCA y myfyriwr. Mae’r sefydliadau yn gofyn i’r cwmni benthyciadau myfyrwyr dalu myfyrwyr ar sail presenoldeb boddhaol a chyrraedd nodau dysgu y cytunwyd arnynt. Nodir y nodau dysgu hyn a’r targedau presenoldeb mewn Cytundeb Dysgu a lofnodir gan y myfyrwyr a’r sefydliad ar ddechrau’r cwrs (gweler isod).

Y cwmni benthyciadau myfyrwyr, o dan yr enw brand Cyllid Myfyrwyr Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a thalu’r LCA yng Nghymru. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gynlluniau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg, ond daeth Lloegr â’i chynllun i ben yn 2011, a sefydlu Cronfa Bwrsari ar gyfer pobl ifanc 16 -19 mlwydd oed yn ei le.

Nid yw’r LCA yn effeithio ar unrhyw arian y mae myfyrwyr yn ei ennill o swyddi rhan-amser nac unrhyw fudd-daliadau a delir i deuluoedd, fel y Budd-dal Plant, credydau treth, y credyd cynhwysol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

 

Meini prawf cymhwyster

Rhaid i fyfyrwyr cymwys fynychu ysgolion neu sefydliadau addysg bellach cydnabyddedig yng Nghymru neu mewn mannau eraill yn y DU.

Mae Incwm yr aelwyd yn faen prawf allweddol ar gyfer dyfarnu LCA. Ar hyn o bryd, ni all myfyrwyr gael LCA oni bai bod eu hincwm cartref yn £20,817 neu lai; neu’n £23,077 neu lai mewn amgylchiadau penodol (fel, bod dibynyddion ychwanegol yn byw ar yr aelwyd).

Rhaid bod cwrs y myfyriwr yn cael ei ystyried yn gymwys hefyd. Er mwyn i gwrs fod yn gymwys, rhaid iddo fod yn:

§  gwrs academaidd neu alwedigaethol hyd at, a chan gynnwys, lefel 3; ac yn

§  amser llawn yn yr ysgol, neu’n cynnwys o leiaf 12 awr dan arweiniad yn y coleg; ac

§  am gyfnod o 10 wythnos o leiaf.

Mae rhestr lawn o’r meini prawf ar gyfer LCA ar gael ar-lein.

Nodwyd newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd o ran y LCA yn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb y Cynllun LCA (Cymru) 2014/15(Saesneg yn unig). Nododd:

The SLC will assess applications made to the EMA Scheme where an applicant meets the eligibility criteria for age, income thresholds and residency, but is unable to meet other criteria (learning sessions at a recognised educational institution) of the Scheme due to the nature of their disability. Successful applicants will receive an equivalent award (of £30 per week).

 

Cytundebau Dysgu

Os bydd y myfyriwr yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd bydd yn rhaid iddo ymrwymo i Gytundeb Dysgu gyda’r coleg neu’r ysgol lle y bydd yn cynnal ei astudiaethau. Bydd cadw at y Cytundeb hwn yn sail i dalu LCA parhaus i’r myfyriwr.

O 2016/17 ymlaen, bydd y cwmni benthyciadau myfyrwyr yn darparu templed Cytundeb Dysgu gorfodol ar gyfer ei ddefnyddio gan sefydliadau. Mae hyn i sicrhau cysondeb, i helpu i wahaniaethu rhwng y cytundeb Lwfans Cynhaliaeth Myfyrwyr a chytundebau ar wahân y sefydliadau eu hunain ar gyfer myfyrwyr, ac i atgyfnerthu pwysigrwydd y cytundeb LCA. Y sefydliadau sy’n gweinyddu’r Lwfans sy’n gyfrifol am lenwi’r bylchau gyda’r myfyriwr.

Mae’r cwmni benthyciadau myfyrwyr hefyd yn darparu Canllawiau i’r Canolfannau Dysgu i gefnogi sefydliadau i ddrafftio eu Cytundebau Dysgu, ac i reoli agweddau eraill ar weinyddu’r Lwfans. Mae tudalennau 15-20 o’r Canllawiau hyn yn ymdrin ag absenoldebau. Noda:

Er mwyn cael LCA rhaid i’r myfyriwr fod wedi llofnodi ei gytundeb LCA ac, o ran yr wythnos y mae’r dyfarniad yn ymwneud â hi, fod wedi bod yn bresennol ym mhob sesiwn ddysgu mewn cysylltiad â’u cwrs cymwys, neu os nad yw’r myfyriwr wedi bod yn bresennol ym mhob sesiwn ddysgu, bod yr ysgol neu’r coleg wedi awdurdodi eu habsenoldeb [pwyslais yr awdur].

Aiff ymlaen i ddarparu enghreifftiau a allai fod yn ‘rhesymau derbyniol ar gyfer awdurdodi absenoldebau’. Mae’r rhain yn cynnwys:

§  Teulu mewn argyfwng, fel yr angen i ofalu am aelod o’r teulu. (Gallai hyn fod yn bwysig i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu e.e. gofalwyr ifanc / oedolion sy’n ofalwyr ifanc sy’n gyfrifol am aelod o’r teulu); neu

§  Apwyntiadau meddygol na ellir eu gwneud y tu allan i oriau ysgol neu goleg. (Yn achos gofalwyr ifanc / oedolion sy’n ofalwyr ifanc, efallai y bydd angen i’r person y maent yn gofalu amdano fynd i apwyntiadau meddygol).

O’r herwydd, mae rhyw gymaint o ddisgresiwn ar gael i golegau benderfynu faint o amser y byddant yn ei ganiatáu fel absenoldeb awdurdodedig a pharhau i dalu LCA. Mae tudalen 21 y canllawiau yn nodi:

Pan fydd yr ysgol/coleg wedi penderfynu nad yw’r myfyriwr wedi bodloni’r meini prawf presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno, ac na chaiff y taliad LCA wythnosol, mae gan y myfyriwr hawl i apelio i’r ysgol/coleg yn unig. Yr ysgol/coleg sydd i benderfynu a oes sail dros apelio yn y lle cyntaf.

Mae disgwyl i ysgolion a cholegau fod â phroses apeliadau eu hunain ar waith, a phroses sydd wedi’i chyhoeddi ac sydd ar gael i’w disgyblion/myfyrwyr.

Dylid nodi nad yw’r holl Nodiadau Cyfarwyddyd yn rhai cyhoeddus. Cânt eu darparu i sefydliadau sydd wedi cofrestru i weinyddu’r LCA yn unig, sydd â mynediad i borth diogel ar-lein y cwmni benthyciadau i fyfyrwyr.

 

Gwerthusiad y Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Yn 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru werthusiad o’r Cynllun LCA. Ar y cyfan canfuwyd bod y LCA yn chwarae rhan gadarnhaol yn systemau addysg Cymru. Rhai argymhellion a allai fod o werth eu nodi yw:

§  Argymhelliad 5 - y cytundebau dysgu yn cael eu cryfhau a’u gwneud yn fwy ystyrlon... Gellid hefyd gryfhau cytundebau dysgu drwy nodi’r gofynion am bresenoldeb o fewn y dogfennau.

§  Argymhelliad 6 - bod canolfannau dysgu yn mabwysiadu polisïau mwy cyson yng nghyswllt gofynion presenoldeb derbynwyr LCA yn ogystal â mwy o gysondeb yn eu harferion i fonitro presenoldeb. Byddai hyn yn arwain at ddarpariaeth decach i dderbynwyr LCA, yn neilltuol yn ymwneud â diffyg presenoldeb oherwydd salwch.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.